Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd
Dros ryddid collasant eu gwaed
Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad!
Tra môr, yn fur, i'r bur hoff bau!
O bydded i'r hen iaith, barhau!
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi
Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad!
Tra môr, yn fur, i'r bur hoff bau!
O bydded i'r hen iaith, barhau!
Os treisiodd y gelyn, fy ngwlad tan ei droed
Mae hen iaith y Cymry, mor fyw ag erioed
Ni luddiwyd yr awen, gan erchyll law brad
Na thelyn berseiniol, fy ngwlad
Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad!
Tra môr, yn fur, i'r bur hoff bau!
O bydded i'r hen iaith, barhau!
|